...a dyna ni! Mae wythnos Cymru Fyw yn y 'Steddfod wedi dod i ben.
Diolch o galon ichi am ddilyn y cyfan trwy gydol yr wythnos.
BBCCopyright: BBC
Hwyl fawr!Image caption: Hwyl fawr!
Roedd hi'n ddiwrnod gwych arall yn Nhregaron ddydd Gwener.
Llŷr Gwyn Lewis yw enillydd Cadair yr Eisteddfod.
Mae Mark Drakeford, Huw Edwards ac eraill wedi cael eu derbyn i'r Orsedd, er anrhydedd.
Bu sawl sgwrs a pherfformiad a ddenodd dorfeydd mawr.
Y cyfan yn goron ar wythnos wych.
Cofiwch am yr holl gystadlu heno ac yfory - gallwch ddilyn yma.
BBCCopyright: BBC
Llwyfan y Maes amdani felly?
Diolch o galon Tregaron 2022! 🌞👏
Gwenwch, mae'n ddydd Gwener!
Dyma Geraint o Landdeiniolen yn mwynhau peint yn yr haul. Pawb yn dechrau ymlacio wedi wythnos brysur!
BBCCopyright: BBC
'Emosiwn, cynildeb a hiwmor'
BBCCopyright: BBC
Llŷr Gwyn Lewis yw enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.
Ceisiodd 14 o bobl am y wobr eleni - y nifer fwyaf ers dros 30 mlynedd.
Daeth Llŷr, sy'n wreiddiol o Gaernarfon, yn ail am Gadair y Genedlaethol yn 2017 ac yn drydydd yn 2018.
Ond daeth i'r brig eleni mewn cystadleuaeth a oedd, yn ôl y beirniaid, yn "ardderchog".
BBCCopyright: BBC
O ran yr awdl fuddugol, dywedodd Mr Reynolds mai casgliad o gerddi a geir am hanes teulu yn treulio Gŵyl y Banc ar draeth Llangrannog.
"Ceir yma fôr o emosiynau o ddicter i dynerwch, o sinigiaeth i anwyldeb, ac mae'n hollol barod i chwerthin ar ben ei ymdrechion ei hunan," dywedodd.
"Ac o dan y cwbl mae yna ymwybyddiaeth o pa mor ddi-rym yw dyn, fel y Caniwt gwreiddiol, i atal y llanw tragwyddol.
"Yn bersonol rwyf i yn ei roi ar y blaen oherwydd ei ddawn delynegol ac hefyd am iddo yn anad neb fynd i'r afael â'r testun gosodedig.
"Mae Emyr Lewis hefyd yn ei roi ar y blaen, o drwch blewyn, ac rwy'n dyfynnu 'am ei gynildeb, treiddgarwch ac anwyldeb agos atoch ac am adrodd profiad cymhleth a digri' bod yn rhiant o Gymro ar draeth Llangrannog'.
"Felly, o ddwy bleidlais i un, mewn cystadleuaeth ardderchog, caderier Cnwt Gwirion."
1955 – Pwllheli a’r cylch – G Ceri Jones, Rhydlewis
Mae'r Pafiliwn yn llawn
BBCCopyright: BBC
Byddwn yn clywed beirniadaeth cystadleuaeth y Gadair ymhen ychydigImage caption: Byddwn yn clywed beirniadaeth cystadleuaeth y Gadair ymhen ychydig
'Patrymau llif yr Afon Teifi' wedi ysbrydoli dyluniad y Gadair eleni
Yn gyn-athro gwaith coed yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth, dywedodd Rees Thomas: "Cefais fy ysbrydoli gan batrymau llif yr Afon Teifi wrth iddi ymdroelli o fryniau Elenydd drwy'r sir ac i'r môr ger Aberteifi.
"Yn ogystal â chreu Cadair sy'n cymryd ei lle ar lwyfan ein Prifwyl, ro'n i hefyd yn awyddus i greu dodrefnyn sy'n addas ar gyfer y cartref."
BBCCopyright: BBC
Os y bydd teilyngdod, bydd y Gadair eleni yn cael ei rhoi am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar y teitl Traeth.
Mae wedi ei chynllunio gan Rees Thomas o Bow Street.
Bydd y Cadeirio'n dechrau ymhen rhai munudauImage caption: Bydd y Cadeirio'n dechrau ymhen rhai munudau
Aduniad Ysgol Uwchradd Tregaron
Mae wedi bod yn wythnos o aduno ar y Maes. Ym Mhabell Cymdeithasau 1, fe wnaeth cyn-ddisgyblion, staff a chyfeillion Ysgol Uwchradd Tregaron gwrdd ddydd Gwener. Y siaradwr gwadd oedd y cyn-ddisgybl Lyn Ebenezer.
BBCCopyright: BBC
Chwerthin lond y Tŷ Gwerin!
BBCCopyright: BBC
Roedd 'na ddigon o hwyl yn y Tŷ Gwerin wrth i Bois y Gilfach a Dewi Pws berfformio deunydd ysgafn Jacob Davies.
BBCCopyright: BBC
Gemma Collins: 'Eisteddfod, Eisteddfod'
Os y gwrandewch chi'n astud ar y clip fideo, gallwch chi glywed Gemma Collins yn ymarfer ei Chymraeg!
Video content
Video caption: Gemma Collins ar y MaesGemma Collins ar y Maes
Dyma hi! Y GC! Mae hi wedi cyrraedd y Maes!
Wel, roedd y sibrydion yn wir.
Mae Gemma Collins, sydd fwyaf adnabyddus fel un o sêr y gyfres realiti The Only Way is Essex ar faes yr Eisteddfod yn Nhregaron.
BBCCopyright: BBC
Gemma Collins a Miriam IsaacImage caption: Gemma Collins a Miriam Isaac
Ond mae'n debyg fod yr Ymryson a'r Cadeirio'n fwy o atyniad i'r holl Eisteddfodwr sy'n dal i giwio tu ôl iddi!
BBCCopyright: BBC
Ciw y pafiliwn yn dal i dyfu!
Mae'r lle dan ei sang wrth i Ymryson y Beirdd barhau a'r Cadeirio i ddigwydd cyn hir hefyd.
Ond mae'n edrych fel petai'r drysau yn y cefn - yn wir - wedi eu cau!
BBCCopyright: BBC
... a dyma sy'n digwydd draw ar Lwyfan y Llannerch
Mae fersiwn Gymraeg o gyfrol sy’n trafod effaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ers 2015 gan Jane Davidson yn cael ei lansio.
Mae’r dorf yn mwynhau clywed am yr adrannau newydd wrth eistedd ar y byrnau gwair.
BBCCopyright: BBC
Beth sy'n digwydd yn y Lle Celf?
Dosbarth Meistr Creadigol gyda'r artist Gareth Owen yn y Lle Celf heddiw
BBCCopyright: BBC
Ysbrydoliaeth tîm Cymru i'w weld ar hyd y Maes
Criw Stwnsh yn denu pêl-droedwyr ifanc.
BBCCopyright: BBC
Ieithoedd amrywiol y Maes
Bu Lleucu Non yn brysur yn y cwt cyfieithu - ac wedi cael pobl o Scandinafia, Llydaw, Ffrainc, Lloegr ac America yn galw draw.
BBCCopyright: BBC
Mark Drakeford yn denu torf fawr arall
BBCCopyright: BBC
Am yr eildro mewn awr, mae Mark Drakeford wedi denu torf fawr i ddigwyddiad ar y Maes. Cymaint felly, fel bod dim lle ym Mhabell Cymdeithasau 1 ar gyfer pawb, ac felly mae dwsinau’n gorfod gwrando o’r tu allan.
BBCCopyright: BBC
Y cwestiwn tro yma yw pam fod y Blaid Lafur yng Nghymru wedi bod mor llwyddiannus yn etholiadol dros y blynyddoedd, gydag A.S Cwm Cynon, Beth Winter a’r Athro Richard Wyn Jones ar y panel.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
...a dyna ni! Mae wythnos Cymru Fyw yn y 'Steddfod wedi dod i ben.
Diolch o galon ichi am ddilyn y cyfan trwy gydol yr wythnos.
Roedd hi'n ddiwrnod gwych arall yn Nhregaron ddydd Gwener.
Llŷr Gwyn Lewis yw enillydd Cadair yr Eisteddfod.
Mae Mark Drakeford, Huw Edwards ac eraill wedi cael eu derbyn i'r Orsedd, er anrhydedd.
Bu sawl sgwrs a pherfformiad a ddenodd dorfeydd mawr.
Y cyfan yn goron ar wythnos wych.
Cofiwch am yr holl gystadlu heno ac yfory - gallwch ddilyn yma.
Llwyfan y Maes amdani felly?
Diolch o galon Tregaron 2022! 🌞👏
Gwenwch, mae'n ddydd Gwener!
Dyma Geraint o Landdeiniolen yn mwynhau peint yn yr haul. Pawb yn dechrau ymlacio wedi wythnos brysur!
'Emosiwn, cynildeb a hiwmor'
Llŷr Gwyn Lewis yw enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.
Ceisiodd 14 o bobl am y wobr eleni - y nifer fwyaf ers dros 30 mlynedd.
Daeth Llŷr, sy'n wreiddiol o Gaernarfon, yn ail am Gadair y Genedlaethol yn 2017 ac yn drydydd yn 2018.
Ond daeth i'r brig eleni mewn cystadleuaeth a oedd, yn ôl y beirniaid, yn "ardderchog".
O ran yr awdl fuddugol, dywedodd Mr Reynolds mai casgliad o gerddi a geir am hanes teulu yn treulio Gŵyl y Banc ar draeth Llangrannog.
"Ceir yma fôr o emosiynau o ddicter i dynerwch, o sinigiaeth i anwyldeb, ac mae'n hollol barod i chwerthin ar ben ei ymdrechion ei hunan," dywedodd.
"Ac o dan y cwbl mae yna ymwybyddiaeth o pa mor ddi-rym yw dyn, fel y Caniwt gwreiddiol, i atal y llanw tragwyddol.
"Yn bersonol rwyf i yn ei roi ar y blaen oherwydd ei ddawn delynegol ac hefyd am iddo yn anad neb fynd i'r afael â'r testun gosodedig.
"Mae Emyr Lewis hefyd yn ei roi ar y blaen, o drwch blewyn, ac rwy'n dyfynnu 'am ei gynildeb, treiddgarwch ac anwyldeb agos atoch ac am adrodd profiad cymhleth a digri' bod yn rhiant o Gymro ar draeth Llangrannog'.
"Felly, o ddwy bleidlais i un, mewn cystadleuaeth ardderchog, caderier Cnwt Gwirion."
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Newydd dorriLlŷr Gwyn Lewis yw enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol 2022
Llongyfarchiadau mawr i Llŷr 👏👏
'Cystadleuaeth ardderchog'
Mae Idris Reynolds, ar ran ei gyd-feirniaid, wedi cadarnhau y byddent yn "hapus i wobrwyo" tua pump o ymgeiswyr cystadleuaeth y Gadair.
Edrychwn ymlaen felly at weld pwy fydd yn sefyll.
Cliciwch yma i wylio'r cyfan.
Nifer o Gardis wedi eu Cadeirio yn y gorffennol...
A fydd 'na deilyngdod heddiw? Os felly, ai Cardi fydd yn sefyll?
Mae sawl un o Geredigion neu sydd wedi ymgartrefu yno wedi ennill y Gadair dros y blynyddoedd. Dyma flas...
2021 – Eisteddfod AmGen – Gwenallt Llwyd Ifan, Tal-y-bont
2015 – Maldwyn a’r Gororau – Hywel Griffiths, Aberystwyth
2014 – Sir Gâr – Ceri Wyn Jones, Aberteifi
2012 – Bro Morgannwg – Dylan Iorwerth, Llanwnnen
2004 – Casnewydd a’r cylch – Huw Meirion Edwards, Llandre
1999 – Ynys Môn – Gwenallt Llwyd Ifan, Tal-y-bont
1997 – Meirion a’r Cyffiniau – Ceri Wyn Jones, Aberteifi
1994 – Nedd a’r cyffiniau – Emyr Lewis
1992 – Ceredigion (Aberystwyth) – Idris Reynolds, Brynhoffnant
1989 – Dyffryn Conwy – Idris Reynolds, Brynhoffnant
1980 – Dyffryn Lliw – Donald Evans, Talgarreg
1977 – Wrecsam a’r cylch – Donald Evans, Talgarreg
1966 – Aberafan a’r cylch – Dic Jones, Blaenannerch
1959 – Caernarfon a Dosbarth Gwyrfai – T Llew Jones, Coed-y-bryn
1958 – Glyn Ebwy a’r cylch – T Llew Jones, Coed-y-bryn
1955 – Pwllheli a’r cylch – G Ceri Jones, Rhydlewis
Mae'r Pafiliwn yn llawn
'Patrymau llif yr Afon Teifi' wedi ysbrydoli dyluniad y Gadair eleni
Yn gyn-athro gwaith coed yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth, dywedodd Rees Thomas: "Cefais fy ysbrydoli gan batrymau llif yr Afon Teifi wrth iddi ymdroelli o fryniau Elenydd drwy'r sir ac i'r môr ger Aberteifi.
"Yn ogystal â chreu Cadair sy'n cymryd ei lle ar lwyfan ein Prifwyl, ro'n i hefyd yn awyddus i greu dodrefnyn sy'n addas ar gyfer y cartref."
Os y bydd teilyngdod, bydd y Gadair eleni yn cael ei rhoi am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar y teitl Traeth.
Mae wedi ei chynllunio gan Rees Thomas o Bow Street.
Gwyliwch seremoni'r Cadeirio
Mae'r Cadeirio ar fin dechrau. A fydd teilyngdod?
Cliciwch yma i wylio'r cyfan.
Paratoi ar gyfer y prif seremoni - Y Cadeirio