Dirgelwch diflaniad rhan o arwydd Eisteddfod Tregaron
- Cyhoeddwyd
Mae dirgelwch yn dilyn diflaniad sawl llythyren o arwydd croeso'r Eisteddfod Genedlaethol.
Mae trefnwyr y brifwyl wedi lansio apêl wedi i'r llythrennau 'E', 'F', 'O', a 'D' ddiflannu dros nos.
Yn ystod cynhadledd i'r wasg fore Sadwrn dywedodd swyddogion "nad oedden nhw'n gwybod dim" am eu diflaniad.
Ym… Oes ‘na rywun wedi gweld ein llythrennau mawr coch ni…? 👀 pic.twitter.com/ofQkwAPtQw
— eisteddfod (@eisteddfod) August 6, 2022
Erbyn hyn mae'r arwydd ger Cerrig yr Orsedd yn arddangos 'ISTEDD' - a fyddai'n wybodus i dafodiaith trigolion lleol.
Cadarnhaodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, bod swyddogion yn ymchwilio i'r sefyllfa.
'Chwalu ystrydebau'
Hefyd yn ystod y gynhadledd daeth cadarnhad bod pwyllgorau lleol wedi casglu cyfanswm o £463,671 tuag at gostau'r ŵyl.
Fe chwalwyd y targed gwreiddiol o £350,000, a gafodd ei godi wedyn i £400,000.
Ydy'r Eisteddfod yn rhy hir? Neu ddim digon hir efallai?
Dywedodd Elin Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith y brifwyl eleni, fod hyn wedi "chwalu'r" ystrydeb bod Cardis yn ofalus gyda'u harian.
Ychwanegodd ei gobaith na fydd 30 mlynedd arall yn pasio cyn i'r Eisteddfod ymweld â Cheredigion eto, gyda'i dyhead i'w gweld yn dod yn ôl bob rhyw wyth mlynedd.
Aeth Betsan Moses ymlaen i ddweud na fydd trefnwyr yn gwybod am ddeufis arall os bydd Eisteddfod eleni wedi gallu talu ei chostau hun, ond byddai trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â chynyddu'r grant blynyddol o'r pwrs cyhoeddus.
Ar hyn o bryd mae'r grant yn talu am oddeutu 12% o gostau cynnal yr ŵyl, ond ei gobaith, meddai, oedd sicrhau ei fod "yn parhau yn fforddiadwy i bobl sydd eisiau ymweld â'r maes" a "dylai diwylliant fod yn agored i bawb".
Straeon perthnasol
- 4 o ddyddiau yn ôl
- 5 o ddyddiau yn ôl