Llŷr Gwyn Lewis yn ennill Cadair Eisteddfod Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
Disgrifiad o’r llun,
Mae Llŷr Gwyn Lewis wedi dod yn ail ac yn drydydd yn y gystadleuaeth yn y gorffennol

Llŷr Gwyn Lewis ydy enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.

Ceisiodd 14 o bobl am y wobr eleni - y nifer fwyaf ers dros 30 mlynedd.

Daeth Llŷr, sy'n wreiddiol o Gaernarfon, yn ail am Gadair y Genedlaethol yn 2017 ac yn drydydd yn 2018.

Ond daeth i'r brig eleni mewn cystadleuaeth a oedd, yn ôl y beirniaid, yn "ardderchog".

Cafodd ei anrhydeddu ar lwyfan y Pafiliwn yn Nhregaron ddydd Gwener - yr olaf o brif seremonïau'r Brifwyl eleni.

Dywedodd y beirniad fod y "safon gyffredinol drwyddi draw yn dipyn uwch na'r norm" - er nad oedd y tri yn unfrydol yn eu penderfyniad terfynol.

'Wedi gallu cadeirio pump'

Y dasg oedd llunio awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau, ar y teitl 'Traeth'.

Y beirniaid oedd Idris Reynolds, Emyr Lewis a Twm Morys.

Dywedodd Idris Reynolds ar ran ei gyd-feirniaid: "Nid ar chwarae bach y mae gweithio awdl ac rwy'n credu bod y pedwar ar ddeg yn haeddu clod am eu hymdrechion.

"Rwy'n teimlo fod y safon gyffredinol drwyddi draw yn dipyn uwch na'r norm. Byddai o leiaf ddwy ran o dair ohonynt yn cipio cadeiriau yn ein Heisteddfodau Taleithiol.

"Ac ar ben hynny, roedd y safon ar y brig yn rhyfeddol o uchel. Ar ôl chwynnu go eger roedd pump ar ôl ar y bwrdd i'w hystyried o ddifrif am Gadair Ceredigion ac fe allem dan amgylchiadau gwahanol fod wedi cadeirio unrhyw un o'r pump gyda chydwybod glir..."

Disgrifiad o’r llun,
Seremoni'r Cadeirio oedd yr olaf o brif seremonïau Eisteddfod Ceredigion

O ran yr awdl fuddugol, dywedodd Mr Reynolds mai casgliad o gerddi a geir am hanes teulu yn treulio Gŵyl y Banc ar draeth Llangrannog.

"Mae'r bardd yn ymwybodol iawn o broblemau mawr yr oes - y newid hinsawdd, y gwastraff plastig, effeithiau niweidiol twristiaeth ar hyd y glannau a dirywiad y Gymraeg yn ei chadarnleoedd - maent i gyd yma o dan y tywod ynghyd â gofidiau mwy personol fel y broses o fynd yn hŷn, cyfrifoldebau penteulu a'r llwyth o ebyst sy'n disgwyl atebion.

"Ac er taw traeth cyfyng yw traeth Llangrannog nid oes yma ddim sathru yn yr un man.

"Ceir yma hefyd fôr o emosiynau o ddicter i dynerwch, o sinigiaeth i anwyldeb, ac mae'n hollol barod i chwerthin ar ben ei ymdrechion ei hunan.

"Ac o dan y cwbl mae yna ymwybyddiaeth o pa mor ddi-rym yw dyn, fel y Caniwt gwreiddiol, i atal y llanw tragwyddol.

"Yn bersonol rwyf i yn ei roi ar y blaen oherwydd ei ddawn delynegol ac hefyd am iddo yn anad neb fynd i'r afael â'r testun gosodedig.

"Mae Emyr Lewis hefyd yn ei roi ar y blaen, o drwch blewyn, ac rwy'n dyfynnu 'am ei gynildeb, treiddgarwch ac anwyldeb agos atoch ac am adrodd profiad cymhleth a digri' bod yn rhiant o Gymro ar draeth Llangrannog'.

"Felly, o ddwy bleidlais i un, mewn cystadleuaeth ardderchog, caderier Cnwt Gwirion."

Pwy ydy Llŷr Gwyn Lewis?

Mae Llŷr yn byw yng Nghaerdydd a chafodd ei fagu yng Nghaernarfon.

Cafodd ei addysg yn Ysgol y Gelli ac Ysgol Syr Hugh Owen, cyn mynd i astudio yng Nghaerdydd a Rhydychen.

Ar ôl cyfnod fel darlithydd yn Abertawe a Chaerdydd, mae ar fin dod i ddiwedd ei gyfnod yn olygydd adnoddau gyda'r corff arholi CBAC.

Mae Ceredigion eisoes yn agos at ei galon, gan iddo ennill cadair yr Urdd am y tro cyntaf yn Llanerchaeron yn 2010 cyn ennill yn Abertawe yn 2011.

Daeth yn ail am gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017 ac yn drydydd yn 2018, ac yn agos yn ogystal am y Fedal Ryddiaith yn 2016. Mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth a dwy gyfrol ryddiaith.

Mae hefyd yn mwynhau perfformio'i gerddi yn fyw, ac yn aelod o dimau'r Ffoaduriaid a'r Penceirddiaid, a chriwiau Bragdy'r Beirdd a'r edefyn.

Pynciau Cysylltiedig